17.6.12

Hallo Klasse 9

Hallo aus Wales!
Wie geht's?


Rydw i wedi mwynhau darllen eich blogiau i gyd. Yn amlwg mae pawb wedi cael diwrnod da yn gwneud gwahanol weithgareddau gyda'r teuluoedd heddiw. Mae rhai ohonoch wedi bod yn ddewr iawn yn mentro at y G-Force - am beth erchyll o uchel! Dylai pawb fod wedi cael diweddglo da i'r diwrnod wrth i'r Almaen ennill 2-1 yn erbyn Denmarc. Mae'r wlad i gyd yn dathlu, siwr o fod!


Cofiwch ddarllen yn ofalus yn ofalus dros y blogiau cyn gwasgu "Publish". Cofiwch fod ansoddair yn treiglo'n feddal ar ôl YN. e.e. yn WYCH ... Hefyd mae rhai ohonoch yn treulio bach gormod o amser gyda Google Translate, dwi'n amau ... Yn olaf, cofiwch drefn y paragraffau. 1. Alm 2. Cym 3. Saes


Rwy'n sicr y cewch chi fore da yfory'n ymweld â Mr Siebert a'i winllan. Os bydd y tywydd yn braf, bydd y golygfeydd yn hyfryd. Rwy'n edrych ymlaen at weld ambell lun ...


Gute Nacht!
Miss James