6.9.07

Sesiynau Iaith * Language Sessions

Dylech fod wedi derbyn llythyr heddiw ...
You should have received a letter today ...

Cofiwch fod dau gwrs iaith gorfodol yn cael eu cynnal ar ôl ysgol ar ddydd Mawrth 11 Medi tan 5pm a dydd Mawrth 18 Medi tan 5:30pm ar gyfer yr holl ddisgyblion sy’n mynychu’r daith. Crybwyllwyd y rhain ar y llythyr cyntaf a dderbynioch am y cyfnewid. Bydd y cwrs yn ymarfer amrywiol sgyrsiau a sefyllfaoedd, megis archebu bwyd a diod, gofyn am help a chyfarwyddiadau, trafod bwyd, mynegi barn a siarad am wahanol weithgareddau gyda’r teulu. Nod y sesiynau fydd cynyddu hyder a rhuglder y disgyblion, gyda chyfuniad o gemau a sgetsys mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae’n hanfodol fod pob disgybl yn bresennol yn y ddwy sesiwn.

Please remember that two language courses will be held after school on Tuesday 11 September until 5pm and Tuesday 18 September until 5:30pm for all exchange pupils. These were mentioned in the first letter which you received about the exchange.During the course we intend practising various conversations and scenarios, including ordering food and drink, asking for help and instructions, discussing food, expressing opinions and discussing various activities with the family. The aim of the sessions is to increase fluency and confidence, with a combination of games and sketches in real-life situations. It is essential that every pupil is present in both these sessions.

Cyfarfod ar gyfer Rhieni * Meeting for Parents

Pan fyddwch yn casglu’ch plentyn o’r ysgol ar y 18fed o Fedi am 5:30pm, bydd cyfarfod byr (tua hanner awr) ar gyfer holl rieni’r daith. Byddwn yn amlinellu’r holl drefniadau, gan gynnwys teithio, ymweliadau dyddiol a rhifau cyswllt. Bydd cyfle i chi holi unrhyw gwestiynau, a bydd llyfryn gwybodaeth i rieni’n cael ei ddosbarthu yn y cyfarfod. Yn ogystal, byddwn yn dosbarthu ffurflenni iechyd ac argyfwng i chi eu llenwi. Byddwn i’n ddiolchgar iawn petaech yn gwneud pob ymdrech i fod yn y cyfarfod pwysig hwn.

A fyddech garediced â dod â phasbort a Cherdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (sydd wedi disodli’r hen E111) eich plentyn i’r cyfarfod gyda chi. Byddwn ni angen llungopïo’r rhain, yna byddwn yn eu cadw yn sêff yr ysgol tan y daith. Os nad oes cerdyn gan eich plentyn, gallwch drefnu cael un mewn tua 10 diwrnod ar 0845 606 2030. Yn ogystal, gellir eu harchebu ar-lein: http://www.dh.gov.uk/en/Policyandguidance/Healthadvicefortravellers/Cymraeg/Welshgettingmedicaltreatment/WelshEEAAndSwitzerland/index.htm


When you collect your child from school at 5:30pm on 18 September, there will be a short meeting (approx 30 minutes) for all parents. In this important meeting we will outline all the arrangements, including travelling, daily visits and contact numbers. You will be able to ask questions, and an information booklet will be distributed to all parents. You will also receive medical and emergency forms to fill in during the meeting. Please make every effort to attend this vital meeting.

Please bring your child's passport and European Health Insurance Card (the new version of the E111) to the meeting. These will need to be copied by the school, and then they will be kept in the safe until we leave for Germany. If your child does not have a card, they can be obtained within some 10 days from 0845 606 2030. You can also order them on-line: http://www.dh.gov.uk/en/Policyandguidance/Healthadvicefortravellers/Gettingtreatmentaroundtheworld/EEAandSwitzerland/DH_4114795