11.7.07

Taliad * Payment

Mae angen i bawb dalu'r ail siec (£50) erbyn dydd Llun 16 Gorffennaf. Talwch yn brydlon os gwelwch yn dda, oherwydd ei bod yn ddiwedd tymor, ac mae'n rhaid i holl arian yr ysgol gael ei dalu mewn i'r banc mewn da bryd cyn y gwyliau.

Everyone needs to pay the second payment (£50) by Monday 16 July. Please pay promptly, because it is the end of term, and all school money needs to be paid into the bank in good time before the holidays begin.

Ffurflenni Proffeil y Disgyblion * Pupil Profile Forms

Mae'r ffurflenni proffeil yn barod i'w llenwi, felly yfory fe fyddaf yn trefnu cyfarfod i bob disgybl sy'n teithio i Grünstadt. Ar y rhain bydd pob disgybl yn llenwi manylion cyswllt, ynghyd â manylion am ddiddordebau, brodyr a chwiorydd, anifeiliaid anwes, alergeddau, a beth maen nhw'n hoffi, neu ddim yn hoffi bwyta. Byddaf hefyd yn tynnu llun o bob disgybl ac yn ei ludo i'r ffurflen. Byddaf yn anfon y ffurflenni hyn i'r athrawes yn yr Almaen, a bydd hi'n penderfynu ar bartner i bob disgybl, oherwydd mae pob disgybl yn yr Almaen wedi llenwi ffurflen debyg, ac mae hi hefyd yn adnabod y disgyblion. Bydd disgyblion YGBM yn derbyn ffurflenni eu partneriaid ym mis Medi pan fyddwn yn dychwelyd i'r ysgol. Llawysgrifen orau amdani ...

The profile forms are ready to be filled, therefore I will arrange a meeting tomorrow for all pupils travelling to Grünstadt. On these forms each pupil will fill in contact information, as well as details about interests, brothers and sisters, pets, allergies, and what they like, or don't like eating. I will also take a photo of each pupil and stick it to the form. I will send the completed forms to the teacher in Germany, and she will match all YGBM pupils with a German partner, also based on their forms, and of her knowledge about the pupils. YGBM pupils will receive their partners' forms in September when we return to school. Best handwriting please ...

Heute habe ich die Formulare fotokopiert. Morgen werde ich eine Treffung organisieren, so dass wir alle zusammen die Formulare ausfüllen können. Dann werde ich sie so schnell wie möglich nach Grünstadt schicken!

Croeso! Willkommen!

Croeso i'r neges gyntaf ar y blog newydd yma. Dyma'r blog sydd wedi cael ei sefydlu ar gyfer Taith Grünstadt fis Medi. Byddwn yn gallu gadael negeseuon dyddiol, gan gynnwys darn yn Almaeneg gyda'n partneriaid. Bydd hefyd yn ffordd i gadw mewn cyswllt gyda'r cartref.

Welcome to the first entry on this new blog which has been set up especially for the Grünstadt exchange in September. This will allow pupils and teachers to write daily messages from Grünstadt, including daily messages in German with the help of their partner.