1.5.09

Grünstadt 2009

Hallo Klasse Neun! In vier Wochen werden wir nach Grünstadt fahren ...

Mae'r amser bron yma i ni fynd i Grünstadt. Mae wedi bod yn sbel ers i fi, Miss Thomas a Miss Bedwyr fod yno ddiwethaf, sef Medi 2007, am fod yr Almaenwyr wedi bod yma gyntaf eleni. Maen nhw wedi bod yn brysur yn trefnu rhaglen i ni.
Yr unig beth sydd angen i ni wneud nawr yw croesi ein bysedd am y tywydd!
Dyma flas o'r hyn sy'n ein disgwyl yn Grünstadt:


Ar y diwrnod cyntaf byddwn yn ymweld â gwinllan leol

Yn eich amser rhydd, efallai y bydd cyfle i chi fynd i'r
pwll nofio awyr agored (Freibad) yn Grünstadt gyda'ch partneriaid


Byddwn ni i gyd yn mynd i'r Kurpfalz-Park ddydd Sadwrn gyda'n partneriaid


Map o'r Kurpfalz-Park


Ffilm o'r Kurpfalz-Park

Byddwn ni'n ymweld â'r SAP Arena yn Mannheim ddydd Llun

Gobeithio fod pawb yn edrych ymlaen! Byddwch yn cadw mewn cysylltiad gyda Chymru ar y blog yma. Cofiwch roi'r cyfeiriad i'ch teulu a'ch ffrindiau.

These pictures show some of the activities that the teachers in Grünstadt have arranged for us. We hope that everyone is looking forward. Let's cross our fingers about the weather!


Dyddiadau Pwysig:
Cofiwch y Noson Rieni: Nos Fawrth 12 Mai 5:30pm
Please remember the Parents' Evening: Tuesday 12 May 5:30pm

Cwrs Iaith / Language Course:
Nos Fawrth 12 Mai 3:10pm tan 5:30pm
Nos Fawrth 19 Mai 3:10pm tan 5:00pm