9.6.10

Wedi cyrraedd yn saff!


Wir sind in Deutschland angekommen! Wir sind alle zufrieden, besonders nach der langen Fahrt. Das Wetter in Deutschland ist sehr warm, viel wärmer als in Wales, aber jetzt gleich regnet und hagelt es - sehr komisch, weil es immer noch so warm ist. Vor dem Leininger Gymnasium haben wir unsere Partner getroffen und wir haben die ganze Gruppe fotografiert. Es war schön alle noch mal zu sehen, weil September in Barry sehr lange her ist. Danach sind wir Lehrer zu einem Restaurant auf einem Weinberg in der Nähe von Grünstadt gegangen. Das Essen war sehr lecker, wie immer. Ich habe Salat, Schwein Cordon Bleu und Bratkartoffeln gegessen. Mmmm! Ich habe zwei große Gläser Apfelschorle getrunken. Das ist mein Lieblingsgetränk hier in Deutschland. Für mich schmeckt Apfelschorle nach Deutschland! Ich freue mich schon auf morgen, wenn wir eine Weinbergführung mit Herrn Siebert machen werden. Das ist immer spitze! Aber jetzt muss ich unbedingt schlafen. Bis morgen ...


Mae pawb wedi cyrraedd yn saff ar ôl y daith hir, ond llwyddodd y disgyblion i gysgu mwy nag unrhyw ddisgyblion erioed o'r blaen ar daith i Grünstadt. Cafodd nifer o ddisgyblion sawl awr lwyddiannus o gwsg. Mae'r tywydd dipyn yn fwy cynnes nag yng Nghymru - ac mae wedi bod yn drymaidd iawn drwy'r pnawn. Fodd bynnag, rydym ni ar hyn o bryd ar ganol storm enfawr o fellt a tharannau, glaw trwm a chesair. Mae'r cesair yn fawr ac yn bownsio oddi ar doeon y tai cyfagos. Peth rhyfedd iawn yw gweld cesair o ystyried pa mor boeth yw hi! Y newyddion drwg yw fod cymaint o law wedi syrthio yn yr awr ddiwethaf ers i ddi ddechrau bwrw, fel bo'r dwr yn llifo i seler Ulli ac mae hi ar hyn o bryd ar y ffôn yn ceisio cael gafael ar rywun i ddod i ddatrys y broblem. Yfory fe fyddwn yn ymweld â'r winllan gyda Mr Siebert. Dyma un o fy uchafbwyntiau i bob blwyddyn, er bo gorfod cyfieithu hanfodion croesbellio grawnwin ben bore yn medru bod yn her! Cyn hynny, rhaid cysgu. Hwyl tan yfory ...


We're all here, safe and sound after the long journey, but we all managed more sleep than on any previous Grünstadt visit. Some people managed a good few hours. We had a warm welcome and round of applause when we got off the bus in front of the school, with everyone meeting up with their partners again. The weather is considerably warmer than in Wales and it has been very muggy all day. We hope that it will improve over night because we are in the middle of a magnificent storm of thunder lightning, rain and massive hailstones! It is strange to see hail when the temperature is so hot. I hope that things will settle down over night so that it isn't too muddy under foot in the vineyard tomorrow. Our visit to see Mr Siebert's vines and his Vollernter grape harvesting machine is always one of the highlights of the week. Bye until then ...

No comments: