10.6.10

Spaghettieis!

Mae pawb bellach wedi clywed am y Spaghettieis enwog, ond nifer ohonoch ofn ei archebu am nad ydych cweit yn siwr beth yw e. Keine Panik - does dim Spaghetti go iawn ynddo!
Pwrpas yr hufen iâ hynod hwn yw edrych fel Spaghetti Bolognese.

Er mwyn trosglwyddo'r wybodaeth angenrheidiol i ddisgyblion Bro Morgannwg gorfodais fy hunan i fynd gydag Ulli am Spaghettieis y pnawn ma. Chwarae teg i'r fenyw yn yr Eis Café da Rossi yn Neustadt, roedd hi'n hapus i fi dynnu lluniau.

Cam 1: Gwthio hufen iâ fanila drwy declyn metel er mwyn iddo edrych fel Spaghetti ...



Cam 2: Rhoi saws mefus ar ben yr hufen iâ er mwyn iddo edrych fel saws Bolognese:


Cam 3: Rhoi siocled gwyn ar y top i edrych fel parmesan ...



A dyna ni ... Spaghettieis mewn 3 cham syml. Mmmmm!
Guten Appetit!

No comments: