9.6.10

Heute, nach dem furchtbar anstrengend Busfahrt,Ich ging zu einer Stadt irgendwo in Deutschland auf Eis mit Jasmin und ihre Eltern essen. Deutsch-Eis ist wirklich seltsam tou kann Nudel Geschmack zu erhalten, aber Ich mag es. Dieser Teil in deutscher Sprache ist wahrscheinlich alles falsch, ich hoffe es ist nicht, aber es ist wahrscheinlich, dann nahmen sie mir einkaufen in den Supermarkt, Ich hasse Supermärkte , ich bin sehr müde und möchte schlafen, und ich bin Abdriften schreibe dies, um ehrlich zu sein. Ich kann nicht Deutsch sprechen, um mein Leben zu retten, ich verstehe nicht, was die Familie sagt, die meisten der Zeit, die ich nur lächeln und nicken, aber immerhin sind sie sehr liebe Menschen und ich hatte die Ehre des Essens ein Schaf und einen Kloß Mut brutwurst Wurst war es nicht das schönste Essen immer noch, aber ich aß sie aus Höflichkeit. Dankeschön x

Wel heddiw ar ol y taith bws anioddefol , fe es i rhyw dref rhywle yn yr almaen i fwyta hufen ia gyda Jasmin a'i rhieni. Mae hufen ia Almaeneg yn rhyfedd iawn mae ganddynt hufen ia spaghetti hyd yn oed ond ta waeth roeddwn i'n hapus gyda fy 'kinder chocolate sundae' . Rydw i'n amau bod y darn almaeneg yn hollol anghywir i ddweud y gwir. Ar ol cael hufen ia a gweld rhyw afon mawr sy'n gwahanu ddau wladwriaeth almaeneg , aeth y teulu a fi i wneud y siopa wythnosol , rydw i'n casau'r 'supermarkt' yna. Dydw i ddim yn gallu siarad Almaeneg hyd yn oed er mwyn achub fy mywyd i ddweud y gwir, rhanfwyaf o'r amser rydw i just yn gwenu a siglo fy mhen , ond mae Jasmin a'i theulu yn bobl hyfryd. Heddiw chefais i'r anrhydedd o fwyta selsigen brutwurst a thwmplen afu cig oen , nid y peth gorau rydw i erioed wedi blasu oedd e wel, mi roedd yn neis tan iddynt esbonio beth oedd y twmplen ond fe fwytais i'r bwyd i gyd mas o gwrteisi , rydw i'n gobeithio y cawn ni gyd hwyl yfory ond am nawr Tchuß! xxx

6 comments:

Unknown said...

Hi Phoebe
Mor falch i glywed dy fod wedi cyrraedd yn ddiogel a dy fod yn taflu dy hun yn llawn brwdfrydedd ac hwyl i fywyd yn yr Almaen. Buaswn wedi dwlu dy weld yn bwyta dwmplen afu cig oen.
Cofia ni at Jasmin a'i theulu. Sut ty sydd ganddynt?
Joia holl weithgareddau fory a chofia dwi ddim angen gwin.
Pawb yn dy golli di fan hyn ac anfon cariad masif atat.
Sws mawr a chysga'n braf heno!
Cariad mawr, Mam, Dad, Ben, Lili, Patch ac Alan.XXXXXXX

Unknown said...

Hi Phoebs
Shw mae byt? Fory cofia i gadw'n positif. Mae'n teimlo'n od yn y ty heb dy swn di!
Mynd allan am fwyd nawr i ddathlu bod ti'n ddiogel.
Tara nawr Ben
O.N. Mae Lili yn gofyn trwy'r amser- ble mae Phoebs?XXXXXXX

Ceri Anwen James said...

Dwmplen afu cig oen!
Diddorol iawn wir!
Ti'n amlwg yn fwy dewr na fi!

Yfory mae angen i ti ddefnyddio'r llyfryn a'r rhestr o eirfa er mwyn ysgrifennu'r darn Almaeneg - mae digon o gymorth gennyt ti. Rwy'n amau fod Mr Google Translate wedi bod yn brysur heno ...

Phoebe Hunter said...

hi ben , ah ye mam , fi'n iawn diolch , ty fach , hyll i ddweud y gwir mae nhw'n digon neis though, fi wedi blino'n llwyr i ddweud y gwir caru chi xxxx , oh mae'n ddrwg gen i Miss James fe wna'i ddefnyddio'r llyfryn a gofyn am help heddiw.

Unknown said...

Hi Phoebe
Gobeithio dy fod wedi cael diwrnod ffantastig heddiw, a bod y stormydd o fellt a tharannau wedi cilio erbyn hyn. Daeth Martin (Siani B) i ysgol Ben heddiw i wneud sioe gyda Cwmni Theatr Gwent- da dwi'n meddwl. Dwi meddwl heblaw am gwpwl o fan newidiadau fy mod wedi gorffen fy ngwaith cwrs- HWRE! O'r diwedd!
Mae dad wedi bod yn Ysgol Iolo trwy'r dydd am gwpwl o ddiwrnodau yn gorffen y stiwdio recordio erbyn ymweliad y Fonz, Dydd Mawrth nesa', ond fydd e ddim adref wythnos nesaf i gwrdd ag ef nag i dy groesawi di adre, mae'n mynd i weithio ar Hollyoaks.
Mae Lili'n mynd i chwarae gyda'i ffrind gorau fory- Eve.
Pawb yn brysur ond gweld dy eisiau'n fawr.
Caru ti llawer iawn ac yn edrych mlaen i ddarllen blog heno.
Swsys mawr,
Mam, Dad, Ben a Lili.XXXXXXXXXXXXXX

sheau said...

site here bags replica gucci right here buy replica bags online check over here replica dolabuy